top of page
Unknown-1_edited.png

NANT Y MYNYDD

English

Beginning where emerald sphagnum,

Bog bean and bottomless moss hold sway

Where white drifts of cotton grass tremble in summer breezes

And shallow pools deepen through winter drenching rain

And dark acid water is held in sucking wet peat.

 

Release to become tumbling, bright, chaotic cold scribbles

That whisper over black wet bright rock.

Between sedge and fern, rush and tussock,

Down, down always down the cold chaos of water must go.

Down steeps and defiles, through cracks and down clefts

Becoming clearer, becoming brighter becoming a mountain stream.

 

Joining together, scribbles, scratches and courses

Gather size, gather power, develop purpose,

Making volume, noisily falling over crag and rock

In collapsing columns of the whitest of water

Filling black edged crystal pools,

Which harbour shimmering rainbow spotted trout

And dancing, bobbing dippers.

 

Becoming lowland rivers, mountain streams

Become Glaslyns, Dwryds, Mawddachs and Dyfis.

With still deeps and quiet shallows,

Slippery banks and shining shingle.

Home to osprey, kite and cormorant

Where herons wait and wait and wait …

The lowland rivers shaping the landscape

With easy power and quiet resolve

 

But mountain streams, too many to count,

Whispering their songs to Raven and Ouzel, Pipit and Lark

Their songs of the mountains,

A refrain of cold, bright, clear water

Tumbling, falling, coursing,

These are the living veins and the soul of the hills

Dafydd Davis, MBE

Welsh

Gan ddechrau ble mae migwyn emrallt,

Ffa'r gors a mwsog diwaelod yn ffrydio

ble mae gwyn y cotwm yn ysgwyd yn awel yr haf

a phyllau bas yn dyfnhau trwy law ymdrochol y gaeaf

a mawn yn amsugno'r dŵr asid tywyll.

 

Fe'i rhyddheir yn sgriblau llachar ac yn llanast oer

sy'n sibrwd dros garreg llachar o ddu.

Rhwng hesg a rhedyn, brwyn a chudynnau glaswellt,

Lawr, lawr, lawr rhaid i'r blerwch oer fynd

Lawr llethrau a cheunentydd, trwy graciau a lawr holltau

yn troi'n gliriach, yn troi'n ddisgleiriach, yn troi'n nant fynydd.

 

Yn uno sgriblau, crafiadau a thrywyddau

yn cryfhau mewn maint, mewn nerth, mewn pwrpas,

yn gwneud sŵn, yn fyddarol dros glogwyn a charreg

yn syrthio i golofnau y dyfroedd gwynnaf

yn llenwi pyllau crisial a'u hochrau yn ddu,

sy'n llochesu brithyll sgleiniog lliwiau'r enfys

a'r fronwen ddŵr yn dawnsio a hercian.

 

Yn troi'n afonydd yr iseldir, nentydd mynydd

yn troi'n Y Glaslyn, Y Dwyryd, Y Fawddach a'r Dyfi

Gyda'u dyfnderoedd llonydd a dyfroedd bas distaw

yn gartref i walch y pysgod, y barcud a'r bilidowcar

ble mae'r creyr glas yn aros ac yn aros ac yn aros...

Afonydd yr iseldir sy'n siapio'n tir

gyda nerth diymdrech a phenderfynoldeb tawel.

 

 

Ond mae nentydd mynydd, gormod i'w cyfri,

yn sibrwd eu cân i'r gigfran a'r fwyalchen, y corhedydd a'r ehedydd

Eu caneuon mynydd

yn ymatal y dŵr clir, oer, llachar

yn disgyn, yn syrthio, yn dilyn eu cwrs

Dyma wythiennau byw ac enaid y bryniau.

Dafydd Davis, MBE

bottom of page