Y RHINOGYDD
English
These little known, enigmatic, fortress like hills
Whose making can clearly be seen.
A confusion of rock, remoteness and heather.
Where tilted terraces and contorted crags
Speak of folding, uplifting, swelling and splitting
And of Eon old rocks now exposed to rain and to sun
Blue gray outcrops and beetling black cliffs.
Compressed marrow like sediments, of flaky soft shale.
A skeleton of rock exposed to the sky
Scoured, scraped and polished by water and ice.
Buff pink slabs covering acres of ground
Bones of rock, bones of strength, bones of age.
The bones of the Rhinog laid bare,
Mysterious, fiercely remote and ferociously rugged,
These purple brown, gray rock streaked hills
Whose bilberry choked crevasses and heather hidden boulders
Make movement difficult, laboured and fraught.
But sentinel rock denizens stand as markers for pilgrims
To link myriad sheep made paths discrete passage
Through rock, heather and peat
Allowing connection to rock, hill, mountain and range.
​
Dafydd Davis, MBE
Welsh
Copaon dirgel, bron yn ddiarwybod yn gaer
a'i chreadigaeth i'w gweld yn glir.
Dryswch o gerrig, yr anghysbell a'r grug
ble mae onglau a chlogwynni ar osgo
yn arddangos y plygu, yr esgyn, y chwyddo a'r hollti
a cherrig oes eon yn noeth i'r glaw a'r haul.
Cerrig arwynebol yn llwydlas a sawl dibyn du,
Gwaddod wedi cywasgu o sial llyfn, bregus,
Sgerbwd o garreg yn noeth i'r awyr lwyd
wedi ei sgwrio, sgrafellu a'i gloywi gan ddŵr a rhew.
Cerrig llyfn rhosliw yn gorchuddio aceri o dir
Esgyrn craig, esgyrn cryfder, esgyrn yr oesau.
Esgyrn y Rhinogydd yn foel,
yn ddirgel, yn farbaraidd o anghysbell a'u hagrwch yn fileinig,
mae'r cerrig brownbiws sy'n llywio'r llethrau
a'u llus yn tagu'r holltau a'u grug yn cuddio clogfeini
yn gwneud symud yn anodd, yn waith caled yn boen.
Ond mae meini hirion yn gyfeirnod i bererinwyr
i gysylltu'r llwybrau defaid cuddedig
trwy'r cerrig, y grug a'r mawn
yn caniatau i'r cerrig, y bryn, y mynyddoedd a'r moelau
fod yn un.
​
Dafydd Davis, MBE