top of page
Beth Horrocks

Mae Beth yn arlunydd tirluniau cyfoes Cymreig ac yn adnabyddus am ei phalet lliw dyrchafol a gwneud marciau chwareus unigryw, mae ei darluniau fector digidol yn ennyn hiraeth a gwerthfawrogiad o dirwedd ddramatig Cymru.

 

Mae’n hawdd camgymryd ei strôc dyfeisgar am baentiadau traddodiadol ar yr olwg gyntaf, o edrych yn fanwl ar ei darluniau yn dangos ffurf gelfyddyd gyfoes ffres yn darlunio Cymru mewn goleuni modern ond clasurol.

 

Mae Beth wrth ei bodd yn yr awyr agored ac yn gweld ei gwaith celf fel dathliad o harddwch naturiol eithriadol Cymru. Nod Beth yw gwthio ffiniau paentio modern, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol frwshys digidol i ddarlunio’r tymhorau, gan ddibynnu ar ba naws a ffurf y mae’n ceisio’u cyfleu ar gynfas.

 

Ar gyfer arddangosfa Llwybr Cadfan mae Beth yn crwydro llwybr pererindod Cadfan rhwng Porthmadog a Chricieth. Yn arbennig golygfeydd o Foel-Y-Gest, Borth-Y-Gest a Morfa Bychan.

bottom of page