
Jane Williams

Mae Jane yn grochenydd lleol ac yn gweithio o’i stiwdio ar fferm y teulu yn Nyffryn Ardudwy. Mae hi'n gweithio ar y droell i gynhyrchu nwyddau cartref ymarferol a cherfluniol. Mae ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan y draethlin a’r dirwedd leol, yn ogystal â chael ei dylanwadu gan hen batrymau.
Mae Jane wedi bod yn gwneud crochenwaith ers graddio o'r brifysgol fwy nag ugain mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn mae Jane wedi gweithio mewn sawl crochenwaith gan gynnwys Crochenwaith Winchcombe, Crochendy Whichford a Chrochendy Hook Norton. Am y deng mlynedd diwethaf mae Jane wedi canolbwyntio ar ei chynlluniau ei hun ochr yn ochr â dysgu serameg. Mae peth o’i hysbrydoliaeth wedi dod gan artistiaid fel Ray Finch, Eddie Hopkins, Jack Doherty, Alistair Young, Toff Milway, Jim Keeling a Victor Hugo i enwi dim ond rhai!
Wrth baratoi ar gyfer yr arddangosfa hon mae Jane wedi dilyn yn ôl troed y pererinion. Mae hi wedi ymchwilio Cadfan Sant ei hun ac wedi edrych ar docynnau pererinion ac ampullae (fflasgiau pererinion) a oedd mor boblogaidd yn yr Oesoedd Canol.
Tybir ei fod wedi ei eni yn Llydaw neu yn ne Cymru sefydlodd Cadfan Sant fynachlog gyntaf Ynys Enlli yn 516 a thrwy gydol yr Oesoedd Canol ymwelodd pererinion â’r ynys sanctaidd “gan gredu y byddai agosatrwydd corfforol at y llu o seintiau a drigai yno rywsut yn cyfrannu at eu hiachawdwriaeth” (OrthoChristian.com)
Roedd yn draddodiadol i bererinion brynu ‘tocyn’ neu ‘ampwla’ (a oedd yn cynnwys olew neu ddŵr sanctaidd) fel prawf eu bod wedi ymweld â safle sanctaidd. Yr arteffactau hyn y bydd Jane yn eu hail-ddychmygu ar gyfer yr arddangosfa hon. Nid yw hi wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o fathodynnau Pererinion na fflasgiau pererinion sy'n gysylltiedig yn benodol â Cadfan Sant ei hun, felly mae hi wedi defnyddio ei hymchwil i ddylunio'r ddau.
Mae hi’n mynd i fod yn defnyddio motiffau pysgod (y pysgotwr yn ystyried Cadfan fel eu ‘amddiffynnydd sanctaidd’ hyd yn ddiweddar) ac afalau (gan gyfeirio at goeden afalau Enlli 1,000 o flynyddoedd oed) i addurno ei gwaith.




