Taith Ardudwy
Iain Davidson
Taith Ardudwy
This print was inspired by a visit to
Meirionnydd after I had first visited Oriel Tŷ Meirion. These ancient ways speak to my fascination with history, and those who have gone before us and I envisaged a print looking down on the area and highlighting some of its landmarks, both ancient and modern.
I wanted to embed signs of the past in the image and had the idea of carving the names into the landscape itself. While I could find no specific Welsh Celtic script, the Ogham and Runic alphabets often recurred in my research, so I settled on these as a way of depicting place names. As the Ogham characters have specific associations with certain trees I also used them to represent wooded areas in the landscape where ash, oak and birch grow, as well as the pine trees that marked vital places of refuge for the drovers who used these routes years ago. The Ardudwy Way itself is represented by a gold vein running through the rugged terrain of Meirionnydd, an acknowledgement of the mineral riches that brought people to this beautiful area of the country.
Reduction Linocut
Unframed Size: 41cm x 54cm
Framed Size: 44cm x 58cm
Framed: £245
Unframed: £190
Ysbrydolwyd y print hwn gan ymweliad â Meirionnydd ar ôl imi ymweld ag Oriel Tŷ Meirion am y tro cyntaf. Mae'r ffyrdd hynafol hyn yn taro tant â'm diddordeb mewn hanes, a'r rhai a aeth o'n blaenau a’r weledigaeth
oedd print yn edrych i lawr ar yr ardal, gan amlygu rai o’i nodweddion, cyfoes a
chynoesol fel eu gilydd.
Roeddwn i eisiau ymgorffori arwyddion o'r gorffennol yn y ddelwedd, a chefais y syniad
o gerfio'r enwau yn y dirwedd ei hun. Er na
allwn ddod o hyd i unrhyw sgript Geltaidd Gymraeg benodol, roedd yr wyddor Ogam a
Rwnig yn dod i’r fei yn aml yn fy ymchwil, felly mi wnes i fodloni ar y rhain fel ffordd o
ddarlunio enwau lleoedd. Gan fod gan lythrennau Ogam gysylltiadau penodol
â rhai coed, fe wnes i hefyd eu defnyddio i gynrychioli ardaloedd coediog yn y dirwedd
lle mae ynn, derw a bedw yn tyfu, yn
ogystal â'r coed pinwydd a oedd yn nodi gorphwysfeydd hanfodol i'r porthmyn a ddefnyddiodd y llwybrau hyn flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolir Ffordd Ardudwy ei hun gan wythïen aur sy'n rhedeg trwy dir garw Meirionnydd, cydnabyddiaeth o'r cyfoeth mwynol a ddaeth â phobl i'r ardal hyfryd hon o'r wlad.
Torlun Dull Lleihau
Maint heb ei fframio: 41cm x 54cm
Maint Ffrâm: 44cm x 58cm
Ffrâm: £245
Heb ei fframio: £190